|
TEITL |
Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024
|
|
DYDDIAD |
28 Hydref 2024 |
|
GAN |
Huw Irranca-Davies AS Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig |
Rwyf wedi rhoi cydsyniad i Lywodraeth y DU wneud a gosod Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024 ("y Rheoliadau"). Mae'r Rheoliadau yn gorgyffwrdd â pholisïau datganoledig a byddant yn gymwys i Gymru. Mae'r Rheoliadau yn gymwys mewn perthynas â Chymru, Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon.
Mae'r Rheoliadau wedi cael eu gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig drwy arfer pwerau a roddir gan Ddeddf yr Amgylchedd 2021.
Mae'r Rheoliadau'n dirymu Rheoliadau blaenorol Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Pecynwaith) 2007 a Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023 ac yn cyflwyno cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (EPR) ar gyfer gwastraff pecynwaith a phecynwaith. Bydd Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer pecynwaith yn ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchwyr pecynwaith dalu cost rheoli gwastraff pecynwaith a darparu gwybodaeth gyhoeddus am waredu gwastraff pecynwaith. Bydd hyn yn golygu y bydd cynhyrchwyr sy'n defnyddio ac yn cyflenwi pecynwaith yn talu am reoli gwastraff pecynwaith gan gymhwyso'r egwyddor "y llygrwr sy'n talu." Bydd ffioedd cynhyrchwyr yn cael eu codi gan weinyddwr cynllun a benodir ar y cyd gan bedair llywodraeth y DU a byddant yn dosbarthu'r arian hwn i awdurdodau lleol. Bydd y cynllun hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchwyr gyrraedd targedau ailgylchu pecynwaith.
Gyda'i gilydd, nod y mesurau hyn yw cymell cynhyrchwyr i leihau pecynwaith diangen, dylunio a defnyddio pecynwaith diangen sy'n hawdd ei ailgylchu, annog y defnydd o becynwaith y gellir ei ailddefnyddio a'i ail-lenwi, a lleihau sbwriel pecynwaith. Felly, mae'r cynllun EPR ar gyfer pecynwaith yn bwysig wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur, ac wrth adeiladu economi gryfach, wyrddach wrth i ni symud ymlaen tuag at Gymru sero-net.
Polisi Llywodraeth Cymru fel arfer yw deddfu dros Gymru ar faterion o fewn cymhwysedd datganoledig, ond o dan rai amgylchiadau, mae manteision i Gymru gydweithio â Llywodraeth y DU pan fo sail resymegol glir dros wneud hynny. Yn yr achos hwn, bydd y Rheoliadau ar lefel y DU gyfan yn galluogi cysondeb ledled y DU tra'n galluogi Cymru i gynnal ac adeiladu ar ei pherfformiad fel ail wlad uchaf y byd am ailgylchu. Yn ei dro, bydd hyn yn hwyluso'r broses o gyflawni canlyniadau cadarnhaol i Gymru drwy ganiatáu dull unffurf ymhlith sefydliadau masnachol wrth iddynt fuddsoddi, yn aml mewn gweithrediadau ar draws marchnad y DU. Felly, mae'n briodol bod y Rheoliadau yn cael eu gwneud ar sail y DU gyfan yn yr achos hwn.
Gosodwyd y Rheoliadau gerbron Senedd y DU ar 24 Hydref 2024. Byddant yn cael eu trafod yn Senedd y DU yn ystod y ffenest rhwng 7 Tachwedd a 4 Rhagfyr 2024. Os caiff y rheoliadau eu cymeradwyo bydd y cynllun yn dod i rym ar 1 Ionawr 2025.